Caned nef a daear lawr, fe gaed ffynnon I olchi pechaduriaid mawr yn glaer wynion; Yn y ffynnon gyda hwy minnau 'molcha', Ac mi ganaf fyth tra bwy': Halelwia! Dyma'r dŵr a dyma'r gwaed redodd allan, Ac o'i ystlys sanctaidd gaed i olchi'r aflan; Hon yw'r ffynnon sy'n glanhau yr aflana'; Yn dragywydd mae'n parhau: Halelwia! - - - - - 1,2,(3). Caned nef a daear lawr, fe gaed Ffynon 'Olchi pechaduriaid mawr yn bur wynion; Af i'r Ffynon gydâ hwy ac mi 'molcha', Ac mi ganaf am ei glwy': Halelwia. Dyma'r Ffynon sy'n glanhau 'r rhai aflanaf, Dyma'r Ffynon sy'n iachau'r clwyfau dyfnaf; Dyma'r Ffynon loyw lân olch fel eira; Byth am deni f'enaid cân Halelwia. Dacw'r deg gorchymyn pur - ar Galfaria, Dacw'r hwn wnaeth fôr a thir - yn y ddalfa; Dacw'r ddeddf yn gofyn iawn - hyd yr eitha', Dacw iddi daliad llawn - Halelwia. 'Olchi :: Golchir ac mi 'molcha' :: ac a 'molcha' Halelwia :: Alelwia loyw lân :: hyfryd lân olch :: ylch am deni :: am dani - - - - - Caned nef a daear lawr, fe gaed ffynon, I olchi pechaduriaid mawr, yn glaer wynion; Yn y ffynon gyda hwy, minnau ymolchaf; Ac a ganaf fyth tra bwy': Haleluiah! Hedd a chariad ar y groes darddodd allan; Iesu, yn nyfnder angau loes, 'faedddd Satan: Er ei glwyfo tan ei fron, ef orchfygodd; Cenir am y frwydr hon yn oes oesoedd. - - - - - Caned nef a daear lawr, Fe gaed ffynnon, I olchi pechaduriaid mawr, Yn glaer wynion; Yn y ffynnon gyd a hwy, minnau ymolcha'; Ac a ganaf fyth tra bwy' Haleluia! Dyma'r aberth mae erioed Son am dano, Ar y ddaear 'does yn bod Debyg iddo: Mae seraphiaid penna'r nen Yn rhyfeddu, Gwel'd eu Brenin ar y pren Yno'n trengu. [WW] Dowch blant afradlon at eich Tad Mae i chwi groeso, A fu mhell o dir eich gwlad, Yn hir grwydro; Mae'r llo pasgedig wedi'i ladd, Ni gawn wledda, Ac mae'r gweision etto'n gwa'dd, Haleluia. [GSC] Nid oes terfyn, fyth i'w gael, Ar ei gariad, Mae'i drysorau mawrion hael, Uwch eu dirnad; Ynddo'i hunan y mae'n llwyr, Oll ddymuna', Fy enaid egwan fore' a hwyr, Haleluia. [WW]Edward Parry 1723-76 [GSC]: Grawn-Sypiau Canaan 1829 [WW]: William Williams 1717-91
Tonau [7474D]: gwelir: Ar Galfaria un prydnawn Blant afradlon at eich Tad Bugail yw fe roes ei waed Dacw'r deg gorchymyn pur Dyma'r Aberth mae erioed Hedd a chariad ar y groes Mi a gredaf yn fy Nuw Myn'd a wnaf dan godi'm llef Ni chaiff fyth o'i ddefaid rhi Nid oes aberth o unrhyw Teithio'r wyf fynyddau maith |
Let heaven and earth below sing, there is a well To wash great sinners shining white; In the well they have I will wash myself too, And I will sing forever while I live: Hallelujah! Behold the water and behold the blood which ran out, And from his holy side flowed to wash the unclean; This is the well which cleanses the foulest; Eternally it endures: Hallelujah! - - - - - Let heaven and earth below sing, there is a Well To wash great sinners pure white; I shall go to the Well with them and I shall wash myself, And I shall sing about his wound: Hallelujah. Here is the Well which cleanses the unclean ones, Here is the Well which heals the deepest wounds; Here is bright clean Well which washes like snow; Forever for attracting my soul sing Hallelujah. Behold the ten pure commandments - on Calvary, Behold him who made sea and land - in custody, Behold the law demanding satisfaction - to the uttermost, Behold it being paid fully - Hallelujah! To wash :: To be washed are :: :: bright clean :: delightfully clean :: for attracting :: about it - - - - - Let heaven and earth below sing, there is a well, To wash great sinners, pure white; In the well with them, I too shall wash; And I shall sing forever while I live: Hallelujah! Peace and love on the cross issued out; Jesus, in the depth of the throes of death, beat Satan: Despite his wounding under his breast, he overcame; This battle shall be sung about forever and ever. - - - - - Let heaven and earth below sing A fount was found, To wash great sinners Clearly white; In the fount with them I too will wash myself; And I shall sing while ever I live Hallelujah! Here is the sacrifice that ever Shall be mentioned, On the earth nothing is Like unto him: The chief seraphim of the sky are Wondering, Seeing their King on the tree There expiring. Come prodigal children to your Father There is a welcome for you, Who were far from the land of your country, Long wandering; The fatted calf has been killed, We shall get a feast, And the servants still are invited, Hallelujah. There is no limit ever to be found To his love, His great, generous treasures are Above their discerning; Within himself he is complete, All I wish, My weak soul morning and evening, Hallelujah.tr. 2008,21 Richard B Gillion |
|